Cyllid i ferch o Benarlâg i drin cyflwr prin

Phoebe Bruce
Image caption Mae gan Phoebe Bruce gyflwr genetig sy'n cael ei achosi gan ddiffyg collegan yn y corff

Bydd merch 17 oed â chyflwr prin sy'n achosi hyd at 18 o ddatgymaliadau bob dydd yn cael arian y GIG i weld arbengwr yn Llundain.

Dywedodd Phoebe Bruce o Benarlâg yn Sir y Fflint fod y cyflwr yn achosi poen barhaol iddi.

Ar ôl disgwyl ymateb am bedwar mis oddi wrth gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, fe wnaeth ei rieni apêl gyhoeddus yr wythnos ddiwethaf.

Mae Phoebe yn diodde' o gyflwr Elhers-Danos, cyflwr genetig sy'n deillio o ddiffyg ym mhrotîn collagen y corff.

Cafodd ei theulu wybod am benderfyniad y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle mae Phoebe eisoes wedi cael ychydig o driniaeth.

Dywedodd ei mam, Yvonne: "Nid ydym wedi cael gwybod faint o arian sydd ar gael eto ond mae'n golygu y gall Phoebe fynd i Lundain i weld arbengiwr er mwyn cael profion, naill ai mewn clinig preifat neu mewn ysbyty GIG.

"Mae'n rhyddhad i gael clywed o'r diwedd y bydd arian ar gael ac mae Phoebe wrth ei bodd."

Dywedodd y fam fod ei merch wedi dysgu ymdopi â'r datgymaliadau ac yn aml yn medru ailosod y cymal ei hun.

"Ond ar adegau eraill, pan mae ei breichiau'n datgymalu, mae'n gorfod mynd i uned ddamweiniau ysbyty yn Wrecsam neu yng Nghaer. Mae'r cyflwr wedi bod yn gwaethygu ers misoedd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.