Achos treisio: Arestio dyn 51 oed

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio ar ôl i enw dynes yr oedd y pêl-droediwr Ched Evans wedi ei threisio ymddangos ar wefan Twitter, wedi arestio dyn 51 oed o Essex.

Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth.

Yn Ebrill cafodd cyn ymosodwr 23 oed Sheffield United a Chymru ei garcharu am bum mlynedd am dreisio'r ddynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan.

Yn gynharach y mis hwn roedd ei apêl yn erbyn y dyfarniad yn aflwyddiannus.

Mae o leiaf 17 o bobl wedi eu harestio wrth i'r heddlu ymchwilio i sylwadau am y ferch ar wefan Twitter.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.