Gwerthu hen felin ger Wrecsam mewn ocsiwn

Hen Felin Yr Orsedd ger Wrecsam Image copyright Other
Image caption Cafodd yr Hen Felin ei hadnewyddu yn 2011

Mae disgwyl i hen felin yn y gogledd ddwyrain gael ei gwerthu mewn ocsiwn ddydd Iau.

Mae'r adeilad yn Yr Orsedd ger Wrecsam yn adeilad cofrestredig Gradd 2 a fu un tro yn destun darlun gan yr artist Turner.

Ym mis Ionawr cafodd y perchennog, Mike Kilgannon, orchymyn i adael ac mae'r adeilad wedi bod yn wag ers hynny.

Roedd o wedi methu parhau gyda thaliadau morgais.

Ers hynny mae 'na ymgais wedi bod i achub yr hen adeilad.

16eg Ganrif

Cyhoeddwyd gorchymyn adfeddiannu ym mis Ionawr ond wedi ymyrraeth gan Gyngor Wrecsam, fe adawodd y beilïaid ar yr unfed awr ar ddeg.

Dywedodd Mr Kilgannon ei fod yn brin o arian wedi iddo fenthyg er mwyn adnewyddu'r felin y llynedd.

Ychwanegodd ei fod wedi cael gorchymyn i dalu gweddill y morgais i gyd neu i adael yr adeilad, sy'n dyddio nôl i'r 16eg ganrif.

Ceisiodd Mr Kilgannon werthu'r adeilad ar wefan eBay.

Mae'r hen felin yn dal i weithio ac mae'n dymuno ei gweld yn cael ei gwarchod.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.