Cyfle olaf i weld casgliad arbennig?

Helmed Image copyright Wrexham Museum
Image caption Helmed byddai milwr o'r byddin Prydeinig wedi ei wisgo

Mae'n bosib iawn mai'r dyddiau nesaf fydd y cyfle olaf i bobl weld casgliad arbennig o eitemau milwrol o'r Oes Napolianaidd i gael eu harddangos gyda'i gilydd.

Unwaith i'r arddangosfa o eitemau o Ryfel Iberia 1808-14 ddod i ben yn Amgueddfa Wrecsam bydd y casgliad yn cael ei werthu gan y perchennog.

Mae'r eitemau milwrol yn rhan o gasgliad preifat y curadur gwadd, Michael Crumplin.

Mae o wedi bod yn eu casglu am tua 40 mlynedd.

Ymgyrch oedd Rhyfel Iberia gan Brydain, Portiwgal a Sbaen i ryddhau'r ddwy wlad olaf o feddiant Ffrainc yn ystod y blynyddoedd 1808-14.

Cyn-llawfeddyg

Dywedodd Jonathon Gammond, Swyddog Dehongli Amgueddfa Wrecsam: "Mae gallu arddangos casgliad o'r fath ansawdd a diddordeb hanesyddol yn brofiad unigryw.

"Mae llawer o gasgliadau preifat byth yn cael eu harddangos i'r cyhoedd, felly rydym ni'n ddiolchgar iawn i Michael Crumplin am ein caniatáu i ddangos yr eitemau."

Daeth diddordeb Mr Crumplin yn y cyfnod o'r ffaith ei bod yn gyn-lawfeddyg a dechreuodd gasglu hen offer meddygol.

"Mae fy niddordeb mawr yn agweddau dynol y rhyfel yn deilio o oes ym myd meddygyniaeth, balchder yn ein lluoedd arfog a diddordeb enfawr yng ngallu dyn i ddioddef ac arloesi," meddai.

Yn ogystal ag offer meddygol mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys:

  • Tocyn i orymdaith angladd Nelson, 1806
  • Pot siambr arian a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymgyrch ar y penrhyn
  • Mysgedau, llawddrylliau a sabrau
  • Pelen ganon a daniwyd ym Mrwydr Waterloo
  • Helmed a sabr yn perthyn i Henry Ellis Boates o Owrtyn tra oedd yn gwasanaethu yn Rhyfel Iberia

Bydd yr arddangosfa yn cau ddydd Llun Medi 3.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.