Mitt Romney
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mitt Romney i sbarduno

30 Awst 2012 Diweddarwyd 09:51 BST

Yn Florida mae Mitt Romney yn paratoi i gloi confensiwn y Gweriniaethwyr gydag araith sy'n cael ei ddisgrifio fel y pwysica' o'i ymgyrch arlywyddol hyd yma.

Mae Mr Romney yn dal ar ei hol hi yn yr arolygon barn yn ei frwydr yn erbyn Barack Obama a'r Democratiaid.

Ond, mae'r economi yno yn parhau'n fregus, a rhyw 23,000,000 o bobl yn ddi-waith.

Gobaith y Gweriniaethwyr yn Florida felly yw mai nos Iau y bydd y ras am y Tŷ Gwyn yn dechrau go iawn.

Adroddiad Tom Lewis o Florida.