Pumed diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Paralympaidd

Nifer o Gymry yn cystadlu mewn amryw o gampau ar bumed diwrnod y Gemau Paralympaidd yn Llundain.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

BOCCIA

Rhagbrofion a rownd gyn-derfynol y parau lle mae Jacob Thomas yn cystadlu. Llwyddodd tîm Prydain i ennill y rownd rhagbrofol o 9-1 yn erbyn Canada. Doedd hyn ddim yn ddigon iddyn nhw symud i'r rownd cyn-derfynol.

TENIS BWRDD

Daeth llwyddiant i Paul Davies wrth iddo ennill medal efydd yn y tenis bwrdd dosbarth 1 i ddynion. Daeth Sara Head o fewn trwch blewyn i efelychu ei gamp, ond collodd yn yr ornest am fedal i Alena Kanova o Slofacia o 3-1.

NOFIO

Roedd Liz Johnson wedi cyrraedd rownd derfynol y ras 200m unigol gymysg (SM6) er iddi orffen yn seithfed yn y rhagras. Enillwyd y ras mewn record byd gan Ellie Simmonds. Ac Ellie Simmonds wnaeth gipio'r Fedal Aur yn y ras derfynol mewn amser oedd yn record byd o 3 munud 05.39 eiliad. Goffennodd Johnson yn chweched gydag amser o 3 munud 25.64 eiliad.

PÊL-FOLI EISTEDD

Collodd dynion Prydain, gan gynnwys Sam Scott a James Roberts o Gymru, yn erbyn Yr Almaen o 3-0 ar ôl curo Morocco o 3-0 yn eu hail gêm yn y grŵp.

HWYLIO

Cafodd ras 5 a 6 i Stephen Thomas yn y Sonar ei gohirio oherwydd nad oedd 'na ddigon o wynt.

PÊL-FASGED CADAIR OLWYN

Colli wnaeth tîm merched Prydain, gan gynnwys y Gymraes Clare Strange, o 50-67 yn erbyn Canada.

Straeon perthnasol