Casgliad celf Cymro i'w arddangos yn Yr Alban

Derek Williams mewn agoriad yn Oriel Howard Roberts Gallery, Caerdydd Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Derek Williams mewn agoriad yn Oriel Howard Roberts, Caerdydd

Fe fydd gweithiau o gasgliad un o gymwynaswyr mwya Amgueddfa Cymru i'w gweld yn Yr Alban.

Derek Williams yw cymwynaswr mwya'r Amgueddfa ers y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies.

Fe fydd eitemau o Gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams i'w gweld mewn arddangosfa newydd yn Pier Arts Centre, Stromness, ar Ynys Erch, Yr Alban.

Wedi eu harddangos yno tan Dachwedd 17 fe fydd yr arddangosfa yn symud i'r City Art Centre yng Nghaeredin o Ragfyr 1 tan Chwefror 24 2013.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys dros 40 o weithiau gan artistiaid Prydeinig mwyaf yr 20fed Ganrif.

Mae gweithiau gan L.S. Lowry, Henry Moore, John Piper, Ceri Richards, Ivon Hitchens a llawer mwy yn rhan o Gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Tirfesurydd siartredig oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd oedd Mr Williams a fu farw yn 1984.

'Casgliad anhygoel'

Dechreuodd gasglu gweithiau celf yn y 1950au.

Roedd yn frwd dros gelf Brydeinig fodern ac fe gafodd ei ddenu drwy hyn at waith John Piper a Ceri Richards, a'u gwaith nhw yw asgwrn cefn y casgliad.

Mae'r casgliad yn ei gyfanrwydd ar fenthyciad tymor hir i Amgueddfa Cymru.

"Adeiladodd Derek Williams gasgliad anhygoel o gelf Brydeinig fodern yn ystod ei fywyd, ac mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn parhau i'w ddatblygu heddiw," meddai Melissa Munro, Curadur Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams.

"Mae Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams yn hynod falch o gael dod â'r casgliad unigryw hwn i'r Alban, gyda'r gobaith o godi ymwybyddiaeth o'r casgliad y tu hwnt i Gymru."

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth wedi marwolaeth y casglwr ac mae wedi ymrwymo i ofalu am, datblygu ac arddangos y casgliad.

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn hael ei chefnogaeth i'r gwaith o brynu gweithiau celf wedi 1900 yn Amgueddfa Cymru.

Dywedodd Andrew Parkinson, Curadur Pier Arts Centre, eu bod yn falch iawn o ddod â chasgliad mor gyfoethog o gelf Brydeinig i Ynys Erch.

"Tra bod gweithiau Casgliad Derek Williams yn dod o'r un cyfnod yn fras â gweithiau casgliad Pier Arts Centre, mae'n olwg hollol wahanol ar gelf tirlun a haniaethol Prydeinig.

"Mae elfen tipyn yn fwy rhamantaidd a bugeiliol i waith artistiaid fel Ivon Hitchens, John Piper a David Jones a bydd yn ddiddorol gweld eu gwaith hwy ac artistiaid eraill o Gasgliad Derek Williams ochr yn ochr â Moderniaeth greiddiol casgliad Pier Arts Centre."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.