Scott Sinclair mas, Pablo Hernandez mewn

Pablo Hernandez Image copyright Getty Images
Image caption Mae Hernandez yn ymuno am £5.55m

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo asgellwr Valencia Pablo Hernandez ar gytundeb tair blynedd.

Mae Hernandez, sydd wedi ennill pedwar cap wrth chwarae i Sbaen, yn ymuno am £5.55m, sef record i Abertawe.

Fe wnaeth y dyn 27 oed chwarae i Michael Laudrup yn Getafe yn 2007-8.

"Dwi wrth fy modd i ymuno ag Abertawe,'' meddai Hernandez wrth wefan y clwb.

Daw hyn wedi i Manchester City arwyddo'r asgellwr Scott Sinclair.

£8 miliwn

Roedd Abertawe wedi gwrthod cynnig gwreiddiol o £6.2 miliwn.

Ond fe wnaeth pencampwyr yr Uwchgynghrair gynnig newydd oedd yn cynnwys cymalau allai olygu bod y swm yn codi i £8 miliwn ond mae hyn yn dibynnu ar ei berfformiad.

Fe chwaraeodd Sinclair, 23 oed, yn ddiweddar i Dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd.

Fe fydd ar gael i Manchester City yn erbyn QPR ddydd Sadwrn.

"Dwi'n falch bod y cyfan wedi ei setlo a 'mod i'n aelod o garfan City nawr," meddai.

"Roedd 'na gyfnod pan oeddwn i'n credu na fyddai hyn yn digwydd."

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at chwarae efo rhai o chwarewyr gorau'r byd.

"Mae gemau Cynghrair y Pencampwyr ar y gorwel yn erbyn Real Madrid ac mae hyn yn dweud y cyfan."

Straeon perthnasol