Bangor 7-1 Aberystwyth

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Roedd hi'n glawio goliau yn Nantporth wrth i Fangor rhoi cweir i Aberystwyth, wrth anfon neges glir i weddill y gynghrair y byddan nhw'n cystadlu i'r eithaf am yr Uwchgynghrair eleni.

Seren y sioe oedd Siôn Edwards a sgoriodd dair yn yr hanner cyntaf (wedi 6, 31 a 35 munud), ac roedd goliau hefyd i Chris Jones (6'), gôl i'w rhwyd ei hun gan Stuart Jones (9'), gôl i'w rhwyd ei hun gan Wyn Thomas (20'), gyda Chris Simm yn coroni'r cyfan (66').

Roedd gôl gysur, ond fawr o gysur ychwaith, i'r ymwelwyr gan Jordan Follows (24 munud).

Seithfed nef i'r Dinasyddion, tipyn o uffern i Tomi Morgan a'i dîm.

Cei Conna 3-1Llanelli

Cafwyd buddugoliaeth gyffyrddus i Gei Conna wrth i Gary O'Toole (49 munud), Ricky Evans (58') a Michael Thompson (88') sgorio, gyda Martin Rose yn cael gôl gysur i'r ymwelwyr wedi 90 munud.

Caerfyrddin 1-1 Lido Afan (nos Wener)

Fe sicrhaodd gôl yn y funud olaf gan Mark Jones i Lido Afan bod Caerfyrddin yn colli eu record 100% yn Uwchgynghrair Cymru nos Wener.

Y tîm cartref aeth ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth i Jack Christopher sgorio wedi 35 munud.

Ac roedd y tîm cartref yn ymddangos fel eu bod yn mynd i sicrhau eu trydedd buddugoliaeth mewn tair gêm wrth i'r gêm dynnu tua'i therfyn.

Ond daeth y diweddglo dramatig wrth i Jones dynnu'r gwynt o'i hwyliau gyda'i gynnig yn y funud olaf i gipio pwynt pwysig i'r tîm ddechreuodd y noson ar waelod y tabl.

Airbus UK Brychdyn 1-0 Bala (nos Wener)

Doedd fawr o goliau mewn dwy o'r gemau eraill chwaraewyd nos Wener.

Roedd un yn ddigon i Airbus i guro'r Bala, sy'n diodde' dechrau digon symol i'w tymor.

Steve Tomasson sgoriodd unig gôl y gêm wedi 18 munud o chwarae i adael y Bala gyda dau bwynt o'u tair gêm hyd yma.

Port Talbot 1-0 Y Drenewydd (nos Wener)

Yn dilyn eu buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Bangor y penwythnos diwethaf, roedd cefnogwyr Y Drenewydd yn gobeithio am y gorau wrth deithio i Bort Talbot, oedd wedi colli eu dwy gêm gyntaf.

Ond unwaith eto roedd un gôl yn ddigon i setlo hon hefyd, a David Brooks a gafodd y sgôr hollbwysig i ennill pwyntiau cyntaf Port Talbot o'r tymor.

Y Seintiau Newydd 4-1 Prestatyn (nos Wener)

Fe gafwyd goliau lu wrth i'r Seintiau Newydd daro pedair yn erbyn Prestatyn.

Digon difflach oedd yr hanner cyntaf heblaw am gôl Greg Draper wedi dim ond naw munud.

Ond wedi'r egwyl daeth dwy arall yn agos at ei gilydd i Ryan Fraughan i'w gwneud hi'n 3-0 i'r tîm cartref.

Rhoddodd Jason Price lygedyn o obaith i'r ymwelwyr gyda'i gôl wedi 71 munud i Brestatyn, ond fe sicrhaodd Sam Finley na fyddai'r gobaith yn para wrth rwydo'r bedwaredd i'r Seintiau yn y funud olaf.

Trefn gemau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth Hyd.5 Rhag.15 1-1 Medi 4 Hyd.27 Tach.24 Medi 21 Rhag.26 Medi 8 Ion.5 Hyd.19
Lido Afan Rhag.21 Hyd.13 Medi 8 Tach.24 Medi 4 Rhag.1 Ion.19 Medi 29 Rhag.26 Hyd.27 1-3
Airbus Medi 28 Ion.5 1-0 Medi 9 1-2 Rhag.26 Hyd.7 Tach.30 Tach.24 Hyd.19 Hyd.26
Bala Tach.3 Tach.18 Medi 4 Rhag.22 Medi 22 Ion.19 Rhag.15 4-4 Hyd.14 Medi 15 Ion.1
Bangor 7-1 Medi 15 Tach.16 Hyd.5 Rhag 15 2-1 Hyd.13 Tach.2 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin 2-0 1-1 Tach.3 Rhag.1 Medi 29 Hyd.13 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 Tach.17 Medi 15
Cei Cona Medi 15 Medi 22 Ion.1 Hyd.19 Hyd.26 Ion.5 3-1 Tach.17 2-0 Rhag.14 Hyd.6
Llanelli Tach.30 Hyd.19 Rhag.23 Medi 29 Ion.5 Ion.29 Tach.11 Medi 15 Hyd.26 2-2 Tach.17
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 Medi 22 Hyd.27 3-2 Hyd.20 Medi 8 Tach.24 Medi 4 Hyd.6 Ion.6
Port Talbot Tach.17 Ion.1 Medi 15 Ion.5 Hyd.20 Hyd.5 Tach.3 1-2 1-0 Medi 22 Rhag.15
Prestatyn Hyd.13 4-2 Ion.19 Tach.24 Rhag.26 Medi 8 Medi 28 Tach.3 Rhag.22 Rhag.1 Medi 11
Seintiau Ion.19 Tach.3 1-0 Rhag.26 Medi 22 Tach.24 Rhag.22 Medi 8 Hyd.13 Medi 29 4-1

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.