Y Pro 12: Gwledd gan y Scarlets

Stryffaglu i atal George North
Image caption Stryffaglu i atal George North

Scarlets 45-20 Leinster

Roedd hon yn fuddugoliaeth nodedig i'r Scarlets, gan guro pencampwyr Ewrop ac ennill pwynt bonws wrth wneud.

Roedd y Scarlets 14-6 ar y blaen ar yr egwyl wedi ceisiau gan Scott Williams a seren y gêm Liam Williams.

Roedd y tîm cartref yn danllyd yn yr ail hanner gyda'r asgellwyr George North ac Andy Fenby yn croesi am geisiau.

Croesodd Devin Toner am gais i'r ymwelwyr cyn i Kieran Murphy, North a Fenby danlinellu goruchafiaeth y Scarlets cyn cais cysur hwyr Ian Madigan.

Trosodd Aled Thomas deirgwaith a Rhys Priestland (yn ei ganfed gêm dros y rhanbarth) ddwywaith.

Dechrau delfrydol i'r prif hyfforddwr newydd Simon Easterby.

Connacht 9-13 Gleision Caerdydd

Dechreuodd Gleision Caerdydd eu cyfnod o dan arweiniad eu cyfarwyddwr rygbi newydd Phil Davies gyda buddugoliaeth dros Connacht yn Galway.

Fe wnaeth yr ymwelwyr y mwyaf o gael y gwynt yn eu cefnau yn yr hanner cyntaf gan arwain 13-0 ar yr egwyl.

Sgoriodd y mewnwr Lewis Jones gais wedi 30 munud, gyda Ceri Sweeney yn ychwanegu trosiad a thair cic gosb.

Ymatebodd y Gwyddelod gyda thair cic gosb gan Miah Nikora yn yr ail hanner ond methon nhw â chael cais.

Dreigiau 37-6 Zebre

Gydag ymadawiad Aironi, mae enw newydd ymysg y clybiau yng nghynghrair RaboDirect Pro 12 y tymor hwn, ac eisoes mae'n argoeli i fod yn dymor anodd i'r Zebre.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dan Evans yn croesi am un o'i ddau gais yn erbyn Zebre

Taith i Rodney Parade oedd yn wynebu'r newydd ddyfodiaid yn eu gêm gyntaf ar y lefel yma, ac fe gawson nhw gweir gan y Dreigiau.

Daeth y sgorio i gyd bron yn yr hanner cyntaf gyda'r Dreigiau yn croesi am bedawr cais gan Andy Tuilagi, Will Harries a dau gan Dan Evans, gyda Tom Prydie yn trosi'r cyfan ac ychwanegu dwy gôl gosb.

Daeth gôl adlam i Steffan Jones hefyd gyda'r unig ymateb gan yr Eidalwyr ar ffurf dwy gôl gosb gan Luciano Orquera.

Treviso 12-6 Gweilch

Buddugoliaeth a phwynt bonws i ddechrau'r tymor i'r Dreigiau felly, ond roedd siom i'r Gweilch yn erbyn y tîm arall o'r Eidal.

Roedd y Gweilch ar daith i wynebu Treviso, ond brwydr gicio a gafwyd yn y Stadio Comunale di Monigo, a'r tîm cartref oedd yn fuddugol.

Y cefnwr Kris Burton giciodd bedair gôl gosb i Treviso, a dim ond dwy gan Dan Biggar oedd ymateb y Gweilch.

Yn y gêm arall a chwaraewyd nos Wener, roedd buddugoliaeth i Ulster dros Glasgow o 18-10 yn Ravenhill.

TREFN GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Maw. 14/15/16 Medi
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 28/29/30 Medi 21/22/23 Rhag. 14/15/16 Medi 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 14/15/16 Medi 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 7/8/9 Medi 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi
GLEISION 7/8/9 Medi 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 5/6/7 Hyd. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 21/22/23 Medi 28/29/30 Medi 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 14/15/16 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 28/29/30 Medi 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 7/8/9 Medi 4/5/6 Ion.
Leinster 21/22/23 Medi 28/29/30 Rhag. 7/8/9 Medi 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 21/22/23 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 7/8/9 Medi 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 5/6/7/ Hyd. 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 14/15/16 Medi 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 5/6/7 Hyd. 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 14/15/16 Medi 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 7/8/9 Medi 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 5/6/7 Hyd. 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.