Wrecsam 2-0 Casnewydd

Wrecsam a Chasnewydd Image copyright bbc

Adrian Cieslewicz a Danny Wright sgoriodd y goliau wrth i Wrecsam ddod â rhediad Casnewydd o bum gêm heb golli i ben.

Fe wnaeth Cieslewicz guro Andy Sandell cyn taro'r bêl heibio Lenny Pidgely wedi 24 munud.

Daeth Wright ymlaen yn lle Cieslewicz wedi 76 munud cyn selio'r fuddugoliaeth ar y Cae Ras.

Fe wnaeth y chwaraewr-rheolwr Andy Morrell gyfuno gyda Robert Ogleby cyn i Wright benio i gornel dde ucha'r rhwyd wedi 82 munud.

Parhaodd yr ymwelwyr i bwyso tan y diwedd, ond ni lwyddodd tîm Justin Edinburgh i elwa o'u hymdrechion.

Mae Wrecsam yn esgyn i'r seithfed safle yn y tabl. Casnewydd er hynny sy'n dal i fod ar y brig.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.