Damwain ffordd: Cludo menyw i'r ysbyty

Mae menyw wedi ei chludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ger Pontardawe.

Fe lwyddodd criw achub ei thynnu o'i cherbyd yn ddiogel ar yr A4067 Ffordd Cwmtawe tua 6:00am ddydd Sul.

Bu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Dreforys a Phontardawe yn ei chynorthwyo.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.