Caerdydd 3-1 Wolves

Peter Whittingham (ar y dde) oedd yr arwr
Image caption Peter Whittingham (ar y dde) oedd yr arwr

Tair gôl gan Peter Whittingham oedd ymateb gwych Caerdydd i gôl agoriadol yr ymwelwyr.

Yn ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth sgoriodd Bakary Sako wedi 9 munud gyda chic rydd isel i roi Wolves ar y blaen.

Ymatebodd Caerdydd o fewn munud pan sgoriodd Whittingham o gic gosb, a ddaeth trwy weithgarwch Craig Noone a oedd yn wych yn ei gêm gyntaf dros Gaerdydd.

Dair munud yn ddiweddarach fe wnaeth Whittingham ergydio'n gelfydd o du allan i'r cwrt cosbi i waelod chwith y gôl i roi Caerdydd ar y blaen.

Seliwyd y fuddugoliaeth wedi 63 munud pan sgoriodd Whittingham o gic rydd y tu allan i'r cwrt cosbi i gornel chwith uchaf y gôl.

Bu'n haf tymhestlog i gefnogwyr Caerdydd, ac mae dechrau'r tymor wedi bod yn amrywiol iddyn nhw hefyd.

Maen nhw nawr yn wythfed yn y bencampwriaeth gyda saith pwynt o bedair gêm.

Straeon perthnasol