Dod o hyd i ddyn wedi ei grogi ar bont yng Ngheredigion

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i ddyn wedi ei grogi ar bont rheilffordd yng Ngheredigion.

Cafwyd hyd i'r corff ar y bont uwchben y B4353 rhwng Borth a Llandre ger Aberystwyth tua 4:18pm ddydd Sul.

Yn ôl Network Rail, cafodd Lein Arfordir y Cambria ei chau tan i'r gwasanaethau brys symud y corff tua 6pm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.