Gwrthdrawiad: Teyrngedau i ddau

Jacek Stawski Image copyright SWP
Image caption Roedd Jacek Stawski yn dad dau o blant

Mae partner dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberdâr wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Jacek Stawski, 38 oed o Benrhiwceibr ger Aberpennar, gyrrwr Citroen Xsara oedd mewn gwrthdrawiad gyda char Nissan Skyline gwyn ddydd Iau, Awst 30.

Dywedodd partner Mr Stawski, Joanna Osinska: "Roedd yn dad gwych ac yn bartner cariadus a chefnogol. Gadawodd ei deulu yn rhy gynnar o lawer.

"Byddaf i, ei fab Thomas, pedair oed, a'i ferch Sophie, 18 mis, yn teimlo colled aruthrol ar ei ôl.

"Bydd effaith ei farwolaeth yn drwm arnon ni am byth."

Image copyright SWP
Image caption Roedd Lee Williams yn teithio yn sedd flaen y car

Teyrnged arall

Bu car Mr Stawski mewn gwrthdrawiad gyda char arall, a bu farw dyn oedd yn teithio yn y car hwnnw hefyd.

Roedd Lee Williams, 41 oed o Aberaman, yn teithio yn sedd flaen y Nissan, ac mae ei deulu wedi bod yn talu teyrnged iddo yntau hefyd.

Dywedodd ei weddw Sian a'i feibion Harri a Ben mewn datganiad: "Roedd Lee yn ŵr, tad, mab a ffrind gwych.

"Does neb oedd yn ei nabod yn credu ei fod wedi ein gadael. Roedd pawb yn ei garu ac ni fydd yn cael ei anghofio."

Fe gafodd gyrrwr 40 oed y Nissan ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, ond credir nad yw ei anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ac yn gofyn i bobl welodd y Nissan Skyline - car cyflym dau ddrws - cyn y gwrthdrawiad wrth iddo deithio o ganol Aberdâr ar hyd yr A4059 tuag at gylchfan Asda.

Dylai unrhyw â gwybodaeth berthnasol ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol