Medal arall i Gymro

Paul Davies Image copyright Sport wales
Image caption Mae Paul Davies hefyd o ardal Pen-y-bont

Mae'r Cymro Paul Davies wedi ennill medal efydd yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain.

Roedd Paul yn cystadlu yn y tenis bwrdd dosbarth 1.

Collodd y rownd gynderfynol cyn herio Chang Ho Lee o Dde Corea yn yr ornest am y fedal efydd.

Paul oedd yn fuddugol o 3-2 yn Arena ExCel.

"Dwi ar ben fy nigon," meddai. "Dwi wedi bod yn whare ers i'r mab gael ei eni ac mae hwn yn ddiwrnod hapus iawn."

Ymddiddorodd yn y gamp yn 1991, bum mlynedd ar ôl cael ei barlysu mewn damwain beic modur.

"Doedd hi ddim yn anodd. Mae Lee yn chwaraewr da iawn a dwi'n ei barchu'n fawr."

Mae ei fuddugoliaeth yn dilyn medalau aur ac efydd Aled Sion Davies o'r un ardal, Pen-y-bont, wrth daflu'r pwysau a'r ddisgen.

Roedd ennill medal o gwbl yn dipyn o gamp i Paul, 45 oed, gan ei fod yn rhif 9 ar restr detholion y byd yn ei ddosbarth.

'Uchafbwynt'

Dywedodd Jon Morgan, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru: "Mae Paul yn gymeriad mor benderfynol. Mae ei waith caled wrth baratoi am y gemau yn Llundain wedi talu ar ei ganfed.

"Bu'n chwarae tenis bwrdd ers ugain mlynedd a dyma uchafbwynt newydd i'w yrfa. Rwy'n gwybod bod ei deulu wedi bod yn hynod gefnogol, ac fe fyddan nhw'n falch iawn ohono heddiw.

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: "Breuddwyd Paul oedd ennill medal Baralympaidd ac rwy' mor falch drosto.

"Mae athletwyr o Gymru wedi ennill medalau bob diwrnod - record falch iawn i ni a rhywbeth yr ydym yn gobeithio fydd yn para yn ystod yr wythnos."

Straeon perthnasol