Gleision: Rhannu dros £1m

Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell Image copyright Other
Image caption Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell ar Fedi 15

Mae'r gwaith wedi dechrau o rannu'r arian a gasglwyd ar gyfer teuluoedd y glowyr.

Cafodd cyfarfod ola' Ymddiriedolwyr Cronfa Glowyr y Gleision eu cynnal yng Nghastell-nedd ddydd Llun.

Mae dros £1 miliwn wedi ei gasglu ar gyfer teuluoedd y pedwar glöwr fu farw mewn damwain pwll glo ar Fedi 15, 2011.

Bu farw David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62 oed, Philip Hill, 44 oed a Garry Jenkins, 39 oed, yn y drychineb.

Mae pedair cronfa ymddiriedolaeth wedi eu sefydlu ar gyfer pedwar o blant neu bobl ifanc o dan 18 oed a bydd Mavis Breslin a Lynette Powell yn derbyn arian.

Roedd Mr Jenkins a Mr Hill wedi cael ysgariad. Felly bydd partner Mr Jenkins a merch 21 oed Mr Hill yn derbyn taliad.

Dywedodd un o'r ymddiriedolwyr Wayne Thomas fod y gronfa wedi cyrraedd cyfanswm o £1,090,000.

'Haelioni'

"Mae ymateb cymunedau lleol ac unigolion o Gymru a thrwy'r Deyrnas Unedig wedi bod yn anhygoel," meddai.

"Bydd yr haelioni yn gwneud gwahaniaeth mawr i blant y rhai fu farw.

"Fydd yr arian fyth yn ddigon i wneud yn iawn am eu colled ond fe fydd yn gwneud eu bywydau rywfaint yn haws."

Dechreuodd yr ymgyrch achub pan lifodd dŵr i mewn i'r pwll.

Cafodd y gronfa apêl ei sefydlu ychydig o ddyddiau wedi'r ddamwain a'r Tywysog Charles oedd y prif noddwr.

Dywedodd Mr Thomas ei fod yn hynod falch fod costau gweinyddol y gronfa yn llai na £530.

Mae yna ddau daliad eisoes wedi bod i deuluoedd y glowyr, un er mwyn helpu gyda chost yr angladdau a'r llall ar gyfer merch anabl un o'r glowyr.

Defnyddiwyd yr arian i brynu cadair olwyn drydan a char wedi ei addasu'n arbennig.

Straeon perthnasol