Colli swydd: Y dull newydd o gyhoeddi

Cheryl Gillan
Image caption Allan o'r Cabinet: Cheryl Gillan

Doedd hi ddim yn syndod clywed bod Cheryl Gillan wedi colli ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru wrth i'r Prif Weinidog, David Cameron, aildrefnu ei Gabinet.

Ond roedd dull cyhoeddi'r newyddion yn newydd sbon i aelod - neu gyn aelod erbyn hyn - o'r Cabinet wrth i Mrs Gillan dorri'r stori ar wefan Twitter.

Ar drothwy cyhoeddi'r Cabinet penderfynodd hi ddileu'r disgrifiad, "Ysgrifennydd Cymru," ar ei chyfrif Twitter cyn trydar eto fore Mawrth i gadarnhau ei bod yn gadael y Cabinet.

Nid Cheryl Gillan oedd yr unig weinidog i ddefnyddio Twitter i dorri newyddion - roedd y Farwnes Warsi wrthi'n trydar y newyddion am ei diswyddiad hefyd.

Tro ar fyd

A chan fod miloedd o bobol yn dewis dilyn y newidiadau i'r Cabinet ar y wefan gymdeithasol daeth tro ar fyd wrth i gyfrif Twitter Rhif 10 Downing Street gyhoeddi enwau'r rhai oedd wedi eu penodi i'r swyddi newydd.

Un sy'n hoff iawn o drydar yw Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

Nos Lun roedd yn trydar sawl pwnc, gan gynnwys y geiriau "I'll be darned," awgrym efallai fod y Prif Weinidog wedi bod ar y ffôn i gynnig swydd iddo.

Nid felly, meddai Mr Jones. Yn hytrach roedd wedi gwneud camgymeriad tra'n ceisio anfon neges breifat i un o'i ffrindiau.

Ond gan fod AS Gorllewin Clwyd bellach yn aelod o'r Cabinet mae'n siwr o fod yn wyliadwrus tra'n trydar.

Straeon perthnasol