Gatland yw hyfforddwr y Llewod

  • 4 Medi 2012
Wales coach Warren Gatland

Hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, fydd hyfforddwr tîm y Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2013.

Gatland oedd y ffefryn ar gyfer y swydd ers tro ond fe ohiriwyd y penodiad ym mis Ebrill wedi iddo dorri ei ddwy ffêr mewn damwain yn ei gartref yn Seland Newydd.

Fe fydd yr ail o Seland Newydd i hyfforddi'r Llewod wedi cyfnod Graham Henry wrth y llyw yn 2001.

"Mae'n anrhydedd fawr i gael fy mhenodi'n brif hyfforddwr," meddai Gatland.

"Does dim amheuaeth y bydd yn her aruthrol - mae chwarae yn hemisffer y de yn un o'r heriau anoddaf ym myd rygbi.

"Daeth y Llewod yn agos yn Ne Affrica (yn 2009) a'n huchelgais ni yw ennill y gyfres yn 2013, ac rwy'n credu fod gennym y chwaraewyr i alu gwneud hynny."

'Ystyried yn ofalus'

Bydd y Llewod yn chwarae tair gêm brawf yn erbyn Awstralia a saith o gemau eraill ar y daith, gan gynnwys gêm gyfeillgar yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong.

Mae disgwyl y bydd hyfforddwr blaenwyr Lloegr, Graham Rowntree, a hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, yn rhan o dîm cynorthwyol Gatland ond does dim disgwyl i'r penodiadau gael eu cadarnhau tan fis Hydref.

Ychwanegodd Gatland: "Dros y misoedd nesaf bydda i'n ystyried yn ofalus bwy i gynnwys yn fy nhîm hyfforddi a'r tîm chwarae.

"Mae pob taith Llewod yn unigryw ac yn uchafbwynt gyrfa hyfforddwyr a chwaraewyr.

"Rwy' am geisio sirchau bod awyrgylch y daith yn iawn fel ein bod ni'n gallu cystadlu - a bod ein cefnogwyr yn falch o'r tîm."

Howley

Er y bydd Gatland yn dechrau ei ddyletswyddau gyda'r Llewod ar unwaith, mae'r cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru yn caniatàu iddo fod yng ngofal Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Seland Newydd ar Dachwedd 24 ac Awstralia ar Ragfyr 1.

Oherwydd anaf Gatland bu'n rhaid i Rob Howley gymryd yr awenau ar gyfer taith Cymru i Awstralia yn gynharach eleni ond llwyddodd Gatland fedru ymuno â'r garfan i wylio'r ddwy gêm olaf.

Bydd Howley wrth y llyw wrth i Gymru wynebu Samoa a'r Ariannin ym mis Tachwedd ac ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

Roedd Gatland, sydd wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru, yn rhan o dîm hyfforddi Ian McGeechan gyda'r Llewod yn Ne Affrica yn 2009.