Buddugoliaeth i Airbus a Lido Afan

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Roedd 'na bedair gêm yn Uwchgynghrair Cymru nos Fawrth.

Y Bala 0 - 2 Airbus

Ryan Wade gafodd ddwy gôl yr ymwelwyr ym Maes Tegid a hynny yn yr ail hanner. Daeth y gyntaf wedi 58 munud a chwe munud yn ddiweddarach fe lwyddodd i ganfod cefn y rhwyd eto. Cafodd Stuart Jones gerdyn melyn i'r tîm cartref wedi 79 munud. Ond roedd Airbus wedi cael tri cherdyn melyn, Abbott, Kearney a Fields.

Lido Afan 2 - 1 Caerfyrddin

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 37 munud wrth i Kieran Howard sgorio. Ond llwyddodd Caerfyrddin i ddod yn ôl wedi 79 munud wrth i Tim Hicks sgorio. Ond gyda munud o amser ar y cloc yn yr amser am anafiadau fe wnaeth Mark Jones ganfod y rhwyd i sicrhau buddugoliaeth i Lido Afan. Mae hyn yn golygu bod Caerfyrddin wedi methu sicrhau eu lle ar dop y gynghrair.

Y Drenewydd 1 - 1 Port Talbot

Cortez Belle o Bort Talbot gafodd y ddwy gôl ym Mharc Latham. Wedi saith munud llwyddodd gyda chic o'r smotyn a hynny pedwar munud ar ôl cael ei gosbi gyda cherdyn melyn. Ond bum munud cyn diwedd y gêm fe rwydodd i'w rwyd ei hun i sicrhau gêm gyfartal.

Aberystwyth 0 - 0 Bangor

Roedd 'na wyth gôl ddydd Sadwrn yn Stadiwm The Book People ym Mangor rhwng y ddau dîm yma, saith i Fangor ac un i Aberystwyth. Ond wrth i Fangor deithio i Goedlan y Parc nos Fawrth, mae'n debyg eu bod wedi anghofio sut i sgorio gan na welwyd yr un gôl. Doedd hi ddim y noson orau i Fangor wrth i Jamie Brewerton dderbyn cerdyn coch a chael ei anfon oddi ar y cae wedi 83 munud.

Trefn gemau a chanlyniadau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth Hyd.5 Rhag.15 1-1 0-0 Hyd.27 Tach.24 Medi 21 Rhag.26 Medi 8 Ion.5 Hyd.19
Lido Afan Rhag.21 Hyd.13 Medi 8 Tach.24 2-1 Rhag.1 Ion.19 Medi 29 Rhag.26 Hyd.27 1-3
Airbus Medi 28 Ion.5 1-0 Medi 9 1-2 Rhag.26 Hyd.7 Tach.30 Tach.24 Hyd.19 Hyd.26
Bala Tach.3 Tach.18 0-2 Rhag.22 Medi 22 Ion.19 Rhag.15 4-4 Hyd.14 Medi 15 Ion.1
Bangor 7-1 Medi 15 Tach.16 Hyd.5 Rhag 15 2-1 Hyd.13 Tach.2 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin 2-0 1-1 Tach.3 Rhag.1 Medi 29 Hyd.13 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 Tach.17 Medi 15
Cei Cona Medi 15 Medi 22 Ion.1 Hyd.19 Hyd.26 Ion.5 3-1 Tach.17 2-0 Rhag.14 Hyd.6
Llanelli Tach.30 Hyd.19 Rhag.23 Medi 29 Ion.5 Ion.29 Tach.11 Medi 15 Hyd.26 2-2 Tach.17
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 Medi 22 Hyd.27 3-2 Hyd.20 Medi 8 Tach.24 1-1 Hyd.6 Ion.6
Port Talbot Tach.17 Ion.1 Medi 15 Ion.5 Hyd.20 Hyd.5 Tach.3 1-2 1-0 Medi 22 Rhag.15
Prestatyn Hyd.13 4-2 Ion.19 Tach.24 Rhag.26 Medi 8 Medi 28 Tach.3 Rhag.22 Rhag.1 Medi 11
Seintiau Ion.19 Tach.3 1-0 Rhag.26 Medi 22 Tach.24 Rhag.22 Medi 8 Hyd.13 Medi 29 4-1

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.