Ymchwilio i broses gwerthu tir 'yn rhy rad'

Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n ymchwilio i sut y cafodd tir ei werthu i gwmni sydd wedi ei gofrestru ar Ynys Guernsey.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Byron Davies, fe gafodd y tir, 16 o safleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru, ei werthu'n rhy rhad.

Mae wedi honni nad oedd y broses yn dryloyw am nad oedd cystadleuaeth agored.

Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn ymchwilio i'r materion a godwyd gan Mr Davies a'u bod yn disgwyl gorffen eu hymchwiliad yn ddiweddarach yn yr hydref.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r tir dan sylw i gorff cyhoeddus arall, Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru, yn 2010 cyn iddo gael ei werthu yn gynharach eleni.

Y pris oedd £21 miliwn a'r prynwyr oedd South Wales Land Developments.

Trethi

Bwriad y gronfa yw gwerthu safleoedd i godi arian ar gyfer cynlluniau adfywio trefol.

Mae'n gorff sy'n gweithredu hyd braich ond yn y pendraw yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cwmni wedi'i gofrestru yn Guernsey lle mae trethi'n tueddu i fod llawer yn llai na rhai Prydain.

Yn ôl Mr Davies, mae 'na beryg fod y tir wedi ei werthu'n rhy rad, yn enwedig gan ei bod hi'n amlwg bellach fod 'na fwriad i godi tai ar rai o'r safleoedd.

"Dylai'r tir fod wedi cael ei werthu mewn ocsiwn agored mwy tryloyw," meddai.

"Rhaid cofio bod pobl wedi bod eisiau'r tir am amser hir iawn ac yn sydyn roedd ar gael i ychydig o bobl.

"Fe fyddai wedi bod yn well ar y farchnad agored a chael y gwerth gorau am arian."

'Hwb'

Image caption Cafodd y tir ei werthu ym mis Mawrth eleni

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd datblygu'r tir yn "hwb i'r economi".

Pe bai gwerth y tir yn codi'n sylweddol, medden nhw, byddai'r prynwyr yn talu mwy na'r pris gwreiddiol amdano.

Yn ôl llefarydd, mae'r gronfa "yn annibynnol" ar y llywodraeth ac mae'r penderfyniadau masnachol yn cael eu gwneud gan reolwyr buddsoddi, Amber Infrastructure a Lambert Smith Hampton.

Roedd y gronfa, meddai, wedi cysylltu â 12 o ddatblygwyr posib a chwe asiant masnachol er mwyn cael yr elw gorau.

"Mae'r penderfyniadau a wnaed gan y gronfa ac sy'n cael eu rheoleiddio gan Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ar sail egwyddorion masnachol sicr er mwyn cael yr elw gorau i drethdalwyr Cymru.

"Mae'r ffaith bod y sector preifat wedi prynu'r tir yn darparu'r buddsoddiad gorau i'r dyfodol ... a bydd yn golygu budd economaidd a swyddi i Gymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.