FIFA: Cymru yn disgyn wyth lle

Chris Coleman Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Chris Coleman yn paratoi am eu ddwy gêm gystadleuol cyntaf fel rheolwr Cymru

Ar drothwy gemau rhagbrofol cystadleuaeth Cwpan y Byd 2014, mae Cymru wedi disgyn wyth lle ar restr detholion y byd.

Mae rhestr ddiweddaraf y corff rheoli pêl-droed, FIFA, mae Cymru i lawr i safle 45, un lle uwchben yr Alban sydd hefyd yn eu grŵp yn y gemau rhagbrofol.

Bydd Cymru'n herio Gwlad Belg nos Wener yn y gêm ragbrofol gyntaf, ac mae Belg wedi codi wyth safle i'r 40fed safle tra bod Serbia i lawr 7 i safle 42 cyn croesawu Cymru i Belgrade yr wythnos nesaf.

Y timau eraill yng ngrŵp Cymru yw Macedonia a Croatia. Mae Macedonia wedi esgyn 5 lle i safle 98, ond mae Croatia yn parhau yn y deg uchaf gan ddal eu gafael ar safle rhif 9.

Cystadleuol

Mae'r ffaith bod Cymru, Yr Alban, Serbia a Gwlad Belg mor agos at ei gilydd ar y rhestr yn dangos pa mor gystadleuol yw'r grŵp yn y gemau rhagbrofol, ac mae'r pedwar tîm ymhell y tu ôl i Croatia.

Bydd Cymru'n croesawu Gwlad Belg i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener cyn teithio i Stadiwm Novi Sad i wynebu Serbia nos Fawrth.

Bydd dwy gêm arall i Gymru ym mis Hydref, gyda'r Alban yn ymweld â Chaerdydd cyn i Gymru deithio i Groatia.

Cyhoeddodd Chris Coleman ei garfan ar gyfer y ddwy gêm gyntaf yr wythnos ddiwethaf, ond eisoes mae anafiadau wedi gweld Neil Taylor, Craig Bellamy ac Andrew Crofts yn tynnu nôl.

Daeth cadarnhad hefyd bod Joel Lynch wedi tynnu nôl ddydd Mercher, a bod amddiffynwr arall o Abertawe - Jazz Richards - wedi cael ei alw i mewn i'r garfan yn ei le.

CARFAN CYMRU v. GWLAD BELG A SERBIA - Medi 7 & 11

Golgeidwaid -

Jason Brown - Aberdeen

Boaz Myhill - West Bromwich Albion

Lewis Price - Crystal Palace

Amddiffynwyr -

Darcy Blake - Crystal Palace

James Collins - West Ham United

Chris Gunter - Reading

Jazz Richards - Abertawe

Adam Matthews - Celtic

Sam Ricketts - Bolton Wanderers

Ben Davies - Abertawe

Ashley Williams - Abertawe

Canol cae -

Joe Allen - Lerpwl

David Edwards - Wolverhampton Wanderers

Andy King - Caerlŷr

Aaron Ramsey - Arsenal

Jonathan Williams - Crystal Palace

Blaenwyr -

Gareth Bale - Tottenham Hotspur

Simon Church - Reading

Steve Morison - Norwich City

Hal Robson-Kanu - Reading

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.