Hwb o ddyrchafiad dal gan Sir Efrog

Cadwodd Adam Lyth obaith Sir Efrog am ddyrchafiad wrth sgorio 95 ar ail ddiwrnod y gêm yn erbyn Morgannwg yn Headingley.

Roedd Sir Efrog 20-0 ar ddechrau'r diwrnod a Lyth yn 5 heb fod allan dros nos.

Methodd o 5 i sicrhau 100 o rediadau ond fe wnaeth Andrew Gale (55) ac Anthony McGrath (39) ychwanegu at sgôr y tîm cartref.

Llwyddodd Sir Efrog, sy'n ail yn Adran Dau, i gael tri phwynt allweddol cyn cael eu bowlio allan am 344.

Fe wnaeth Jim Allenby gymryd pedair wiced i Forgannwg.

Collodd yr ymwelwyr ddwy wiced mewn dwy belawd yn hwyr yn y diwrnod i orffen 27-2.

Sir Efrog 344

Morgannwg 272 & 27-2

Ar ddiwedd yr Ail Ddiwrnod

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.