Steve Williams o'r Rhyl yw Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu

Bu aelodau o Ffederasiwn yr Heddlu yn gorymdeithio yn gynharach eleni i brotestio ynghylch newidiadau arfaethedig i dâl a phensiynau Image copyright PA
Image caption Mae aelodau Ffederasiwn yr Heddlu wedi bod yn gorymdeithio oherwydd newidiadau arfaethedig i dâl a phensiynau

Mae Cymro wedi ei ethol yn Gadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr sy'n cynrychioli 140,000 o blismyn.

Bydd yr Arolygydd Steve Williams yn olynu Paul McKeever ym mis Ionawr.

Mae Mr McKeever wedi beirniadu'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn hallt, gan ddweud ei bod "ar fin chwalu" gwasanaeth heddlu sy'n cael ei edmygu trwy'r byd.

Ymunodd Mr Williams â'r heddlu yn 1984 yn ei dref enedigol, Y Rhyl, Sir Ddinbych, a chafodd ei ddyrchafu'n dditectif arolygydd yn 1997.

Dywedodd ei fod yn "anrhydedd" cael ei ethol.

Bu aelodau o Ffederasiwn yr Heddlu yn gorymdeithio yn gynharach eleni oherwydd newidiadau arfaethedig i dâl a phensiynau.

Mae Mr Williams yn cymryd yr awenau ddeufis cyn etholiadau Tachwedd 15 i ddewis Comisiynwyr Heddlu a Throsedd mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr y tu allan i Lundain.

Ymhlith dyletswyddau'r comisiynwyr mae sefydlu blaenoriaethau heddlu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi'r prif gwnstabl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.