Cwmni dillad Jane Norman yn symud ei bencadlys o Lundain i Gaerdydd

Siop Jane Norman yn Llundain Image copyright PA
Image caption Yr un cwmni sy'n berchen ar Jane Norman a Peacocks, cwmni Edinburgh Woollen Mill (EWM)

Cyhoeddodd cwmni dillad Jane Norman y bydd yn symud ei bencadlys i Gaerdydd o Lundain.

Wrth symud mae'n addo creu hyd at 50 o swyddi newydd yn y swyddfa dros y chwe mis nesaf.

Cafodd y cwmni ei brynu y llynedd gan gwmni Edinburgh Woollen Mill (EWM) ar ôl mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dydi'r cwmni ddim wedi penderfynu lle yn union y bydd yn lleoli.

Un opsiwn yw rhannu swyddfeydd gyda chwmni Peacocks, a brynwyd yn ddiweddar gan EWM, yn y brifddinas.

Neu mae safle dosbarthu Peacocks yn Nantgarw yn opsiwn lle mae tua 600 o weithwyr ar ôl i'r warws yn Coventry gau.

Staff yn symud

Mae gan Jane Norman tua 100 o siopau yn y DU a thua 150 arall dramor, sy'n anelu at ferched 16 i 25 oed.

Image caption Un opsiwn yw lleoli yn swyddfeydd Peacocks yng Nghaerydd

Dywedodd rheolwr grwp marchnata EWM, David Read, bod y cwmni wedi penderfynu symud gan fod y cytundeb ar y swyddfa yn Llundain yn dod i ben.

Ychwanegodd bod y rhan fwyaf o'r 70 aelod o staff yn Llundain wedi penderfynu symud i Gymru.

Mae disgwyl i'r cwmni benderfynu yn ystod y bythefnos nesa ar yr union leoliad.

"Rydym wedi penderfynu symud i Gaerdydd," meddai.

"Rhaid gwneud yn siwr bod ganddo ni y lleoliad cywir a'r amgylchedd gweithio cywir.

"Yn amlwg mae ganddo ni gynlluniau ehangu a fydd yn arwain at swyddi newydd dros y tri-chwe mis nesa'."

Fe wnaeth EWM brynu cwmni Peacocks am £23 miliwn ym mis Chwefror gan ddiogelu 6,000 o swyddi drwy'r DU gan gynnwys 250 yn y pencadlys yng Nghaerdydd.

Ond cafodd tua 3,000 o bobl eu diswyddo ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr gyda dyled o tua £750 miliwn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.