Arfwisg prin yn dychwelyd i Gymru

Yr Arglwydd Tommy Howard de Walden yn gwisgo arfwisg Image copyright National Trust
Image caption Roedd gan Yr Arglwydd de Walden ddiddordeb yn y Canol Oesoedd

Mae arfwisg unigryw wedi dychwelyd i gastell yng ngogledd Cymru ar ôl 60 mlynedd.

Cafodd yr arfwisg ei wneud yn y 1920au gan grefftwyr Ffrengig ar gyfer yr Arglwydd Howard de Walden oedd yn byw yng Nghastell Y Waun ger Wrecsam rhwng y ddau ryfel byd.

Mae'r arfwisg wedi cael ei hail adeiladu yn y castell ar gyfer arddangosfa fydd yn adrodd hanes teulu Howard de Walden.

Dywedodd Carolyn Latham o Gastell y Waun, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod gan yr Arglwydd de Walden ddiddordeb yng nghyfnod y Canol Oesoedd.

"Mae'r ffaith iddo archebu'r arfwisg yma'n arbennig yn dangos gymaint oedd ei ddiddordeb," meddai.

"Roedd yn awyddus i deimlo a phrofi hanes, i weld sut beth oedd byw a gwisgo rhywbeth o'r gorffennol yn hytrach na dim ond darllen am y pwnc."

Canolbwynt

Cafodd yr arfwisg ei chreu gan yr artist Ffrengig Felix Joubert fel copi o arfwisg Almaenig o'r 15fed ganrif.

Cafodd ei symud o gastell yn Yr Alban er mwyn bod yn ganolbwynt i'r arddangosfa newydd.

Dywedodd Ms Latham: "Roedd gan yr Arglwydd de Walden ddiddordeb difrif yn yr arfwisg ond roedd hefyd yn cael hwyl yn ei gwisgo.

"Mae straeon yn sôn amdano'n dod lawr i gael brecwast yn ei gwisgo ac fe baentiodd yr artist Augustus John lun ohono'n ymlacio yn ei gadair yn darllen papur newydd tra'n gwisgo'r arfwisg."

Bydd yr arddangosfa'n agor ar 29 Medi yng Nghastell Y Waun.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.