Cynnal cystadleuaeth ddeifio yng Nghymru

Orlando Duque Image copyright Romina Amato/Red Bull
Image caption Orlando Duque o Colombia yn deifio o lwyfan 28 metr yn Inis Mór, Ynysoedd Aran

Mae cefnogwyr wedi heidio i ogledd Sir Benfro dros y penwythnos wrth i Gyfres Ddeifio Clogwyni Red Bull y Byd ddod i Gymru am y tro cyntaf.

Dechreuodd y gystadleuaeth yn Abereiddy am 11.15am fore Gwener.

Mae'r digwyddiad wedi denu sylw'n barod gan fod pob tocyn rownd derfynol dydd Sadwrn wedi ei werthu.

Bydd 14 o ddeifwyr gorau'r byd yn plymio o lwyfan bach 27 metr uwchben y môr.

Wythnos brysur

Mae busnesau lleol yn gobeithio elwa hefyd wrth i'r tymor gwyliau yn Sir Benfro ymestyn am gyfnod byr.

Dywedodd Matthew Blakiston, perchennog bwyty'r Sloop Inn ym Mhorthgain, ei fod wedi cael wythnos brysur.

"Mae hi wedi bod yn wych i'r busnes.

"Mae gen i 155 o'r tîm deifio yma am fwyd ac mae pob lle gwely a brecwast yn yr ardal yn llawn."

Un o'r ffefrynnau yw Gary Hunt o Southampton, a enillodd gymal diweddar y gyfres yn Boston.

Image caption Mae'r llwyfan deifio eisoes yn ei le yn Abereiddy, Sir Benfro

"Rwy'n caru'r ffaith fod rhaid i chi orfod goresgyn eich ofnau i wneud hyn ac mae'r teimlad ar ôl gwneud yn rhyfeddol," meddai.

Meini prawf

Mae beirniaid yn marcio'r deifwyr yn ôl meini prawf tebyg i safonau Olympaidd, gan gynnwys techneg, amseru ac ati.

Dydd Gwener mae pob cystadleuydd yn cael un ymarfer ac un cynnig fydd yn cael ei farcio, ac ar sail hynny bydd y deifwyr i gyd yn cystadlu benben â'i gilydd ddydd Sadwrn.

Gall y deifwyr gyrraedd cyflymder o 90 mya, a gall y cystadleuwyr gael anafiadau difrifol os nad yw eu techneg yn gywir.

Mae Cyfres Red Bull y Byd yn denu deifwyr o Fecsico, Yr Unol Daleithiau, Rwsia, Ffrainc, y DU a Gwlad Pwyl, ac mae'r gylchdaith eleni yn ymweld â chlogwyni yn Awstralia, Norwy, Iwerddon, Cymru, yr Unol Daleithiau ac Oman.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.