Morgannwg yn colli mewn tri diwrnod

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Efrog o wyth wiced gyda diwrnod i sbario.

Fe gafodd Morgannwg ddechrau ofnadwy i'r trydydd diwrnod trwy golli wicedi Will Bragg, Stewart Walters a David Lloyd yn gynnar i adael y tîm ar gyfanswm o 46 am 5 wiced ar un cyfnod.

Daeth sgôr o 48 gan Jim Allenby a 36 gan Graeme Wagg i gynorthwyo Morgannwg i gyrraedd sgôr gweddol o 182 yn eu hail fatiad, ond doedd hynny byth yn mynd i fod yn ddigon yn dilyn sgôr mawr y tîm cartref yn eu batiad cyntaf nhw.

Roedd angen wicedi cynnar at Forgannwg i gael unrhyw obaith, ond rhoddodd safiad o 63 am y wiced gyntaf i Swydd Efrog daw ar hynny.

Llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd y nod gydag wyth wiced, a diwrnod cyfan, i sbario.

Swydd Efrog v Morgannwg (Sgôr terfynol)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) - 272

(Ail fatiad) - 182

Swydd Efrog: (Batiad cyntaf) - 344

(Ail fatiad) - 111 am 2 wiced

Swydd Efrog yn fuddugol o wyth wiced

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.