Apêl am stadiwm lawn wrth i Gymru wynebu Gwlad Belg

Gareth Bale ac Aaron Ramsey Image copyright Getty Images
Image caption Mae 'na apêl ar gefnogwyr fynd i wylio rhai o sêr y garfan fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Gwlad Belg nos Wener, eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Mae'r gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dywedodd cyn-gôlgeidwad Cymru, Neville Southall, y bydd "yn siomedig" gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru a'r cefnogwyr os na fydd y tîm yn chwarae o flaen torf lawn.

Yn ddiweddar mae'r tîm wedi chwarae o flaen torfeydd bychan.

Ond dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford, "mai ychydig iawn" o docynnau sydd heb eu gwerthu.

"Yn amlwg fe fydd 'na docynnau yn dod yn ôl gan Wlad Belg, dwi ddim yn siŵr a ydyn nhw wedi llwyddo i werthu'r cyfan.

"Mae 'na rai tocynnau ar ôl, felly cynta' i'r felin."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gymdeithas eu bod wedi bod ym mhob cwr o Gymru dros yr wythnosau diwethaf yn hyrwyddo'r gymdeithas ac wrth gwrs y gêm.

Prisiau rhesymol

"Rydym wedi ymweld â phob ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac roeddem hefyd yn y gêm rhwng Caerdydd a Wolves y penwythnos diwethaf.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dydi Chris Coleman ddim wedi ennill gêm ers cymryd yr awenau yn gynharach yn y flwyddyn

"Mae lot o'r marchnata yn deillio o ennill gemau wrth gwrs, fydde 'na ddim byd gwell o ran marchnata na churo Gwlad Belg."

Ond mae Southall yn credu y gallai'r gymdeithas fod yn gwneud mwy i hyrwyddo'r gemau drwy ddefnyddio eu prif chwaraewyr.

Dywedodd hefyd nad oes gan y cefnogwyr esgus i dalu i fynd i wylio'r gemau gan fod pris tocyn oedolyn yn £20 a bod pensiynwyr a phlant dan 16 oed yn £5.

"Dydach chi ddim yn sylweddoli'r effaith y mae'r cefnogwyr neu ddiffyg cefnogwyr yn ei gael ar dîm," meddai Southall.

"Dwi wedi chwarae yn yr hen stadiwm ym Mharc yr Arfau yn erbyn San Marino ac roeddwn yn gallu clywed cefnogwyr yn archebu te a bwyd...

"Does dim byd gwaeth na hynny.

"Gyda sêr yn nhîm Gwlad Belg fe fyddwn i'n disgwyl i'r lle fod yn llawn.

"Pam na fyddech chi eisiau dod i weld Gareth Bale, Joe Allen neu Aaron Ramsey am bris rhesymol?"

Yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Bosnia Hercegovina ym mis Awst yn Llanelli roedd 'na dorf o 6,253 yn gwylio Cymru yn colli o 2-0.

Ym mis Chwefror roedd 'na 23,193 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer Gêm Goffa Gary Speed pan gollodd Cymru o 1-0 yn erbyn Costa Rica.

Ac ym mis Tachwedd roedd 'na 12,637 ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy pan enillodd Cymru o 4-1.

Cymru v Gwlad Belg nos Wener Medi 7 am 7.45pm. Sylwebaeth ar BBC Radio Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.