Treisio: Dyn 22 oed yn y llys

Bydd dyn 22 oed gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o ymosodiad rhywiol a threisio.

Dywedodd yr heddlu fod y cyhuddiadau'n ymwneud â throseddau honedig yng Nglandŵr, Abertawe, ar ionawr 1 a Threbiwt, Caerdydd, ar Ebrill 22.

Cafodd ei arestio yn Llundain.