Chwalu gobeithion y Gweilch

Paul Marshall
Image caption Paul Marshall o Ulster sgoriodd y cais hwyr

Pro12: Gweilch 13-16 Ulster

Cais hwyr Paul Marshall chwalodd obeithion y Gweilch yn Stadiwm y Liberty.

Cafodd John Afoa ei atal o fewn trwch blewyn i'r llinell a llwyddodd y mewnwr Marshall i ddeifio drosodd.

Trosodd Paddy Jackson, gan ychwanegu at ddwy gic gosb flaenorol.

Roedd y Gweilch ar y blaen ar ôl i'r asgellwr Hanno Dirksen's sgorio'n wych wedi 24 o funudau. Roedd Matthew Morgan wedei cicio wyth o bwyntiau.

Er bod y ddwy ochr yn dangos addewid, yn aml roedd trafod gwallus yn sbwylio sawl ymosodiad.

Trobwynt

Daeth y gêm yn fyw pan gydiodd Dirksen yn y bêl, chwalu amddiffyn bregus, rhoi hwp i gefnwr Ulster, Jared Payne, a gwibio dros y llinell.

Yn anffodus, ni lwyddodd y Gweilch i adeiladu ar hyn gan fod gormod o gamgymeriadau.

Trobwynt y gêm oedd penderfyniad hyfforddwr Ulster, Mark Anscombe, i ddefnyddio eilyddion.

Yn gynta, pan gyrhaeddodd cyn brop Seland Newydd Afoa a phrop Iwerddon Tom Court cafodd sgrym y Gweilch ei gwthio'n ol. Yn ail gosododd y rheng ôl Stephen Ferris ei stamp ar y gêm oherwydd ei daclo ffyrnig.

Chafodd y Cymry ddim cyfle i frwydro'n ôl.

TREFN GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Maw. 14/15/16 Medi
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 28/29/30 Medi 21/22/23 Rhag. 14/15/16 Medi 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 14/15/16 Medi 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 13-18 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 5/6/7 Hyd. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 21/22/23 Medi 28/29/30 Medi 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 14/15/16 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 28/29/30 Medi 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 13-16 4/5/6 Ion.
Leinster 21/22/23 Medi 28/29/30 Rhag. 45-25 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 21/22/23 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 5/6/7/ Hyd. 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 14/15/16 Medi 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 5/6/7 Hyd. 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 14/15/16 Medi 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 5/6/7 Hyd. 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi