Cartrefi yn colli cyflenwad dŵr

Amharwyd ar gyflenwad dŵr tua 330 o gartrefi yng Ngheredigion ar ôl i bibell dorri.

Dywed Dŵr Cymru fod pibell tair modfedd o drwch wedi torri'r tu allan i orsaf Heddlu Llambed fore Mawrth.

Roedd 'na effaith hefyd ar gyflenwad yr ysgol leol.

Bu'n rhaid i Dŵr Cymru ddifodd y cyflenwad am 9:30am er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.

Cafodd y cyflenwad ei adfer erbyn 10:15am.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.