Cynllun newydd i hen safle yn Y Trallwng

Welshpool's motte and bailey castle Image copyright Clwyd-Powys Archaeological Trust
Image caption Mae'r mwnt a'r beili rhwng ffordd osgoi'r dref ac archfarchnad

Gallai safle hen gastell sy'n un o henebion sir Powys gael ei droi'n atyniad i dwristiaid.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys clirio tir gordyfiant fel y gall pobl ymweld â mwnt a beili yn y Trallwng a dysgu am eu hanes.

Dywedodd cyngor y dref a Chyngor Powys eu bod yn cydweithio.

Does dim llawer yn weddill i'r hen gastell ond fe allai agor i ymwelwyr yn hwyr yn 2013, yn ôl swyddogion.

Mae'n bosib y bydd cilffyrdd rheilffordd Fictorianaidd gerllaw yn cael eu hadfer, ac mae'r cynllun hefyd yn cynnwys caffi.

'Trysor'

Dywedodd y Cynghorydd Phil Pritchard o'r cyngor tref fod y mwnt a'r beili yn drysor yn y dref.

"Mae yna ordyfiant mewn rhannau, ond rwy'n credu os bydd yn cael ei agor i'r cyhoedd fe fyddai o fudd mawr i'r dref fel atyniad i dwristiaid," meddai.

"Mae llain o dir tua 300 wrth 50 llathen o faint yn eiddo i stad Castell Powys, ond maen nhw wedi cytuno i'w gosod ar brydles i Gyngor Tre'r Trallwng.

"Rydym yn gobeithio y bydd cyllid o Ewrop ar gael ac fe allai agor erbyn diwedd y flwyddyn nesaf."

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys wedi croesawu'r cynlluniau ar gyfer safle'r castell.

Dywedodd eu llefarydd Jeff Spencer: "Dyma'r olion cynharaf o bresenoldeb gweledol yn y Trallwng.

"Rwy'n credu ei fod yn syniad da. Mae gan bobl well syniad o berthyn i rywle os oes ganddyn nhw synnwyr o hanes y lle."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.