Dinas yn Denu gŵyl ryngwladol

Nod yr ŵyl yw hyrwyddo ieithoedd a diwylliant y rhanbarthau Celtaidd ar y sgrîn
Image caption Nod yr ŵyl yw hyrwyddo ieithoedd a diwylliant y rhanbarthau Celtaidd ar y sgrîn

Bydd Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013 gŵyl ryngwladol sy'n denu rhai o'r enwau mawr ym myd darlledu a'r ffilmiau yn cael ei chynnal yn Abertawe.

Nod yr ŵyl yw hyrwyddo ieithoedd a diwylliant y rhanbarthau Celtaidd ar y sgrîn ac ym myd darlledu.

Mae gwesteion y gorffennol yn cynnwys yr actorion Tilda Swinton, Rhys Ifans a Peter Mullan, y gwneuthurwr ffilmiau, Ken Loach, y sgriptiwr Jimmy McGovern a chynhyrchydd Doctor Who a Torchwood, Russell T Davies.

Fe fydd yr ŵyl 34 oed yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Marriott a lleoliadau celf amrywiol. rhwng Ebrill 24 a 26.

Bydd cynrychiolwyr o'r Alban, Iwerddon, Cymru, Cernyw a Llydaw yn rhwydweithio, cyfnewid syniadau, mynd i weithdai a sesiynau a hyrwyddo eu diwylliannau a'u hieithoedd.

Gwesteion

Er bod yr ŵyl yn bennaf ar gyfer cynrychiolwyr y diwydiant, bydd rhaglen ehangach o sgriniadau, arddangosfeydd, adloniant gyda'r nos a chyfweliadau a'r sêr a fydd ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr a seminarau i fyfyrwyr lleol.

Un o uchafbwyntiau'r ŵyl fydd cyflwyno'r Torchau Efydd am Ragoriaeth.

Caiff yr enillwyr eu dethol gan banel o feirniaid rhyngwladol.

Dywedodd y Cyngyhorydd David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym wrth ein boddau i gynnal Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd yn Abertawe am y tro cyntaf.

"Rydym yn falch iawn o'r dreftadaeth ddiwylliannol ac mae cysylltiad y ddinas â holl agweddau ar y diwydiant cyfryngau yn hir-sefydlog; o Dylan Thomas yn y BBC i adfywiad Russell T Davies o Dr Who."

Ychwanegodd Dhomhnall Caimbeul, Cadeirydd Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd:

"Mae Abertawe'n ddinas â threftadaeth gyfoethog a chymuned Gymraeg arbennig o fywiog, felly rydym yn sicr y bydd yn fan perffaith i gynnal gŵyl y flwyddyn nesaf."

Straeon perthnasol