Mam: 'Adroddiad ddim yn ddigon'

John McBrien
Image caption Bu farw ei mab, John McBrien

Mae mam y bu farw ei mab yn nhrychineb Hillsborough wedi dweud nad yw'r adroddiad yn ddigon.

Dywedodd Joan Hope o Dreffynnon, Sir y Fflint, fod yr adroddiad yn "gam ymlaen".

Bu farw ei mab, John McBrien, 18 oed, a 95 o bobl eraill yn y drychineb ar gae Sheffield Wednesday yn 1989.

Dywedodd y dylai rhai gael eu herlyn. "Nid dial yw hwn ond cyfiawnder."

Mae adroddiad annibynnol wedi casglu y gallai rhai fod wedi goroesi a bod yr heddlu wedi newid datganiadau tystion.

Ddydd Mercher ymddiheurodd y Prif Weinidog, David Cameron, a dweud nad oedd yr heddlu wedi gwneud digon a'u bod nhw wedi ceisio pardduo cefnogwyr.

'Yn gyflym'

Dywedodd y fam wrth BBC Cymru: "Mi oeddwn i'n siomedig ac yn gobeithio y byddai datganiad fod yr heddlu'n euog.

"Mae angen atebion yn gyflym ... dwi ddim am aros 23 blynedd arall.

"Mi gollon ni bobl oedd yn agos iawn aton ni'r diwrnod hwnnw a dylai rhywun fod wedi dweud y gwir ar unwaith."

Cyfaddefodd fod ei bywyd wedi newid pan fu farw ei mab.

"Mae wedi fy ninistrio i ond roedd rhaid i mi ymladd ... er mwyn y mab.

"Doedd neb mor hyfryd ag o. Mi oeddwn i yn ei garu. Mae'n amhosib' cyfleu hyn mewn geiriau.

"Mi fydda i'n galaru am byth."

Straeon perthnasol