Pencampwriaeth Agored Merched Prydain

Lydia Hall
Image caption Lydia Hall, golffwraig 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr

Oherwydd gwyntoedd cryf o 50 mya ddydd Gwener bu'n rhaid rhoi'r gorau dros dro i'r cystadlu ym Mhencampwriaeth Golff Agored Merched Prydain ar gwrs Royal Liverpool.

Cyn hynny fe gafodd Lydia Hall o Ben-y-bont ar Ogwr rownd gyntaf ardderchog

Mewn tywydd gwyntog llwyddodd Hall, 24 oed, i sicrhau rownd o 71 - un ergyd yn well na'r safon.

Gorffennodd y rownd un ergyd y tu ôl i Haeji Kang a So Yeon Ryu o Dde Korea.

Cafodd Cymraes arall, Becky Morgan, rownd o 72 i'w gadael ddwy ergyd o'r brig ac un y tu ôl i Hall.

Roedd hi'n ddiwrnod siomedig i'r drydedd Gymraes yn y gystadleuaeth. Cafodd Amy Boulden rownd o 78 - chwe ergyd dros y safon ar ddiwedd y rownd gyntaf.

Pencampwriaeth Golff Agored Merched Prydain - Cwrs Royal Liverpool, Hoylake, Cilgwri :

= 1. H.Kang (De Korea) -2 (70)

=1. S.Y.Ryu (De Korea) -2

=3. V Hurst (UDA) -1 (71)

=3. K Futcher (UDA) -1

=3. M Miyazota (Japan) -1

=3. S Keating (Awstralia) -1

=3. K Webb (Awstralia) -1

=3. L Hall (Cymru) -1

=3. C Hull (Lloegr) -1

=3. A Miyazota (Japan) -1

=3. J Shin (De Korea) -1

Y Cymry eraill :

=12. B.Morgan +/-0 (72)

=112. A. Boulden +6 (78)