Aston Villa 2-0 Abertawe

Matthew Lowton yn sgorio i Villa Image copyright Getty Images
Image caption Matthew Lowton yn sgorio i Villa

Mae Abertawe wedi colli eu gem gyntaf o'r tymor yn yr Uwchgynghrair.

Dechreuodd yr Elyrch yn yr ail safle dydd Sadwrn.

Ond roedd yr ymwelwyr ar ei hol hi o gol i ddim ar ôl 14 munud, ergyd y Matthew Lowton o ymyl y blwch cosbi yn rhoi Villa ar y blaen.

Fe gaeth Ashley Williams a Nathan Dyer gyfleodd i ddod a'r sgôr yn gyfartal, ond doedd yna ddim pwyso cyson gan yr ymwelwyr.

Yn y diwedd fe wnaeth gol Christian Benteke sicrhau'r pwyntiau ar ôl camgymeriad gan Williams.

Fe lwyddodd chwarae cystadleuol Villa i rwystro gem basio arferol yr Elyrch.

TABL UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Chelsea 4 6 10
2. Man Utd 4 5 9
3. Arsenal 4 7 8
4. Man City 4 3 8
5. ABERTAWE 4 6 7

Straeon perthnasol