Uwchgynghrair Cymru

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Roedd y goliau'n llifo yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn wrth i'r Bala ennill am y tro cyntaf, a'r Seintiau Newydd geisio codi i'r brig.

Roedd y Seintiau'n croesawu Bangor yn y gêm hwyr ddydd Sadwrn, ac roedden nhw ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl Alex Darlington.

Aberystwyth 0-2 Llanelli (Nos Wener)

Dechreuodd y penwythnos nos Wener wrth i Lanelli ennill 2-0 yn Aberystwyth, a hynny er iddyn nhw chwarae am awr gyfan gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch i Mamadou Diallo wedi 31 munud.

Martin Rose sgoriodd un yn y ddau hanner i gipio'r triphwynt.

Ond brynhawn Sadwrn roedd yna goliau di-ri ymhobman bron.

Y Bala 3-0 Caerfyrddin

Ar ôl eu dechrau ofnadwy i'r tymor a welodd y Bala'n dechrau'n diwrnod ar waelod y tabl, daeth rhyddhad wrth iddyn nhw groesawu Caerfyrddin.

Lee Hunt ddechreuodd y difrod gyda dwy gôl gynnar i'r Bala, ac fe ychwanegodd Kenny Lunt un arall cyn yr egwyl i'w gwneud hi'n 3-0.

Cei Cona 6-4 Lido Afan

Roedd yna golled arall i Lido Afan wedi iddyn nhw golli yn erbyn Bangor yr wythnos ddiwethaf, ond roedd hon yn un ryfeddol.

Sgoriodd Gary O'Toole a Dean Canning ddwy yr un gyda Rhys Healy a Jamie Petrie yn ychwanegu'r ddwy arall wrth i Gei Cona sgorio chwech.

Daeth llu o goliau hwyr i'r Drenewydd gyda Luke Borelli a Mark Jones yn sgori dwy bob un, ond er hynny roedd hi'n brynhawn diflas i Lido Afan, a thaith hir a siomedig yn ôl i'r de i'w cefnogwyr.

Y Drenewydd 1-7 Airbus UK Brychdyn

Gallai cefnogwyr Y Drenewydd gerdded adre o'u gêm nhw, ond digon diflas fyddai'r daith honno hefyd.

Roedd pedwar sgoriwr gwahanol i Airbus wrth iddyn nhw chwalu'r Drenewydd, gyda hat-tric i Steve Abbott a Chris Budres yn sgorio dwy.

Tom Fields a Steve Tomasson gafodd y ddwy arall i Airbus gyda Craig Whitfield yn ymateb i'r Drenewydd.

Prestatyn 1-1 Port Talbot

Ar ôl curo'r Seintiau Newydd yr wythnos ddiwethaf, aeth Prestatyn ar y blaen wedi dim ond chwe munud yn Bastion Gardens, gyda Jason Price yn rhwydo.

Ond dim ond pwynt gafodd Prestatyn y tro hwn gan i David Brooks unioni'r sgôr wedi naw munud o'r ail hanner i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr.

Trefn gemau a chanlyniadau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth Hyd.5 Rhag.15 1-1 0-0 Hyd.27 Tach.24 0-2 Rhag.26 0-5 Ion.5 Hyd.19
Lido Afan Rhag.21 Hyd.13 1-0 Tach.24 2-1 Rhag.1 Ion.19 Medi 29 Rhag.26 Hyd.27 1-3
Airbus Medi 28 Ion.5 1-0 2-3 1-2 Rhag.26 Hyd.7 Tach.30 Tach.24 Hyd.19 Hyd.26
Bala Tach.3 Tach.18 0-2 Rhag.22 3-0 Ion.19 Rhag.15 4-4 Hyd.14 1-2 Ion.1
Bangor 7-1 4-1 Tach.16 Hyd.5 Rhag 15 2-1 Hyd.13 Tach.2 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin 2-0 1-1 Tach.3 Rhag.1 Medi 29 Hyd.13 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 Tach.17 0-0
Cei Cona 1-2 6-2 Ion.1 Hyd.19 Hyd.26 Ion.5 3-1 Tach.17 2-0 Rhag.14 Hyd.6
Llanelli Tach.30 Hyd.19 Rhag.23 Medi 29 Ion.5 Ion.29 Tach.11 0-3 Hyd.26 2-2 Tach.17
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 1-7 Hyd.27 3-2 Hyd.20 1-3 Tach.24 1-1 Hyd.6 Ion.6
Port Talbot Tach.17 Ion.1 4-4 Ion.5 Hyd.20 Hyd.5 Tach.3 1-2 1-0 Medi 22 Rhag.15
Prestatyn Hyd.13 4-2 Ion.19 Tach.24 Rhag.26 7-1 Medi 28 Tach.3 Rhag.22 1-1 1-0
Seintiau Ion.19 Tach.3 1-0 Rhag.26 Medi 22 Tach.24 Rhag.22 Medi 8 Hyd.13 Medi 29 4-1

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.