Damwain farwol: Apêl am dystion

Safle'r ddamwain
Image caption Safle'r ddamwain yn Llanrhidian

Bu farw dau dau ddyn ac anafwyd dau arall ar ôl i'w car daro yn erbyn coeden ar benrhyn Gŵyr.

Dywed yr heddlu fod y gwasanaethau brys wedi eu galw am 7.50 pm ddydd Sadwrn.

Roedd y pedwar yn dod o ardal Abertawe.

Dywed yr heddlu fod dyn 22 oed a llanc 17 oed wedi eu lladd.

Mae'r gyrrwr, dyn 25 oed, a theithiwr arall, 21 oed, mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Treforys.

Digwyddodd y ddamwain ar y B4295 yn Llanrhidian, lai na milltir o Faes Carafanau Llanrhidian.

Roedd pedwar o bobl yn teithio yn y car Volkswagen Golf du.

Mae Heddlu'r De yn apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad, neu a welodd y car cyn y ddamwain i gysylltu â nhw.

Maen nhw'n awyddus i holi pump o ferched oedd yn teithio mewn car gwyn a hefyd pobl oedd yn teithio mewn car lliw du.