Pencampwriaeth Agored Merched Prydain

Lydia Hall
Image caption Lydia Hall, golffwraig 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr

Jiyai Shin o Dde Corea sydd ar y blaen o bum ergyd ym Mhencampwriaeth Golff Agored Merched Prydain ar gwrs Royal Liverpool.

Bu'n rhaid ail gynnal yr ail rownd ddydd Sadwrn oherwydd i wyntoedd rwystro'r chwarae ddydd Gwener yn Hoylake.

Fe orffennodd hi'r ail rownd yn naw ergyd yn well na'r safon.

Doedd yr ail rownd ddim cystal i Lydia Hall o Ben-y-bont ar Ogwr.

Yn y rownd gyntaf, mewn tywydd gwyntog llwyddodd Hall, 24 oed, i sicrhau rownd o 71 - un ergyd yn well na'r safon.

Ddoe fe orffennodd yr ail rownd mewn 75.