Magu blas?

Mi fydd y Gwyddelod a'r Albanwyr yn cael gweld bod gan y Cymry, hefyd, chwisgi
Image caption Prif Weinidog: "Gobeithio y bydd wisgi o Gymru yn cael ail wynt"

Mae distyllfa wisgi newydd yng Ngheredigion yn cael ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ddydd Mawrth.

Mae distyllfa wisgi fach Da Mhile yn Llandysul yn defnyddio cynnyrch organig lleol i gynhyrchu wisgi.

Sgubor sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg yw cartref y ddistyllfa, ac mae yno ganolfan ar gyfer ymwelwyr hefyd.

Sefydlwyd y cwmni gan John Savage-Onstwedder, sy'n ffermwr organig, ac fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru £60,000 tuag at y fenter.

'2000' yw ystyr yr ymadrodd Gaeleg Da Mhile, sef y flwyddyn gyntaf i John werthu wisgi a gynhyrchwyd ganddo.

'Stôl flasu'r Prif Weinidog'

Wrth fynd ar daith o amgylch y ddistyllfa caiff y Prif Weinidog gyfle i weld y broses gynhyrchu, yn ogystal â blasu'r wisgi. I nodi'r achlysur, fe gomisiynodd y ddistyllfa stôl arbennig, 'stôl flasu'r Prif Weinidog' a wnaed o un o gasgenni wisgi gwreiddiol Da Mhile o 1992.

Dywedodd Mr Savage-Onstwedder: "Fel rhywun a chwaraeodd ran ganolog yn y gwaith o gynhyrchu Da Mhile, wisgi organig cynta'r byd nôl ym 1992 er mwyn dathlu'r mileniwm, mae gallu cynhyrchu ein wisgi, ein gwirodydd a'n gwirodlynnau yn ein Distyllfa Da Mhile ni ein hunain yma ger Llandysul yng Ngheredigion yn gwireddu breuddwyd.

"Heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl. Fe wnaeth ein cynnyrch cyntaf, Orange 33, gwirodlyn oren organig, ennill gwobr efydd yng Ngwobrau'r Gwir Flas y llynedd gyda'r batsien cyntaf a gynhyrchwyd, ac yn y dyfodol rydyn ni'n bwriadu cynhyrchu wisgi, gwirodydd a gwirodlynnau o'r safon uchaf y gall Cymru gyfan fod yn falch ohonynt."

'Traddodiad'

Yn ôl y Prif Weinidog: "Pan soniwch am wisgi, mae pobl yn tueddu i feddwl am yr Alban ac Iwerddon, ond roedd y gwirod yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru hyd at ganrif yn ôl.

"Mae heddiw yn arwydd ein bod yn mynd gam yn nes at y traddodiad hwnnw. Gobeithio y bydd wisgi o Gymru yn cael ail wynt heddiw".

Straeon perthnasol