Ergyd ddwbl i Gymru

Rhodri Jones
Image caption Rhodri Jones: Ddim ar gael am dri mis

Mae Tîm Rygbi Cymru'n wynebu ergyd ddwbl gan fod dau brop wedi eu hanafu cyn gemau prawf yr hydref.

Bydd prop y Scarlets, Rhodri Jones, yn gorfod cael llawdrinaieth oherwydd anaf ar ei ysgwydd. Fydd e ddim ar gael am dri mis.

Mae'n debyg na fydd Craig Mitchell o Gaerwysg ar gael am gyfnod hir wedi iddo anafu ei benelin yn erbyn Cymry Llundain ddydd Sul.

Ar Dachwedd 10 mae Cymru'n wynebu'r Ariannin cyn herio Samoa ar Dachwedd 16, Seland Newydd ar Dachwedd 24, ac Awstralia ar Ragfyr 1.

"Mae Rhodri a'r garfan wedi cael siom ...," meddai hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby.

"Hyd yn hyn mae wedi bod yn chwaraewr allweddol.

"Rydyn ni'n dymuno adferiad buan iddo fe ac yn edrych ar nifer o opsiynau o gofio ein bod ni newydd arwyddo Jacobie Adriaanse."