Tri wedi marw mewn tân yn Nhorfaen

Fire fighters at Tillsland, Coed Eva
Image caption Yr heddlu a'r gwasanaeth tân ger yr eiddo yng Nghwmbrân

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân difrifol mewn tŷ dau lawr yng Nghwmbrân, Torfaen.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dau oedolyn a phlentyn wedi marw, ac mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau'r tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall mai cyrff tair o ferched a gafwyd hyd iddynt yn y tŷ.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi gyrru pedair injan dân o Gwmbrân, Malpas a Chasnewydd i'r safle fore Mawrth.

Maen nhw'n dal yno yn ceisio diffodd y fflamau yn yr eiddo.

Daeth yr alwad i mewn am 3:29am o'r tŷ yn Tillsland yng Nghoed Efa i ddweud bod y tŷ eisoes yn wenfflam.

Goleuadau

Dywedodd un o drigolion ardal Coed Efa, Jean Lewis, ei bod wedi cael ei deffro yn oriau man y bore gan oleuadau cerbydau'r gwasanaethau brys.

"Fe gerddais draw i weld beth oedd yn digwydd, ond mae'r ardal wedi cael ei chau. Mae'r tai yn agos iawn at ei gilydd.

"Rwyf wedi byw yma ers saith mlynedd, ac mae pawb ar fy stryd yn nabod ei gilydd."

Dywedodd yr heddlu y bydd archwiliad fforensig o'r eiddo gan y gwasanaeth tân a'r heddlu yn dechrau'n ddiweddarach.

Yn y cyfamser, maen nhw eisoes wedi dechrau holi o ddrws i ddrws yn yr ardal.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.