Babi, mam a nain wedi marw mewn tân yng Nghwmbrân

Kayleigh Buckley Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Kayleigh Buckley, 17, ynghyd â'i mam a'i merch chwe mis oed

Mae dyn 27 oed o Fanceinion wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i dair farw mewn tân mewn tŷ deulawr yng Nghwmbrân, Torfaen.

Y tair oedd Kim Buckley, 46 oed, ei merch 17 oed Kayleigh a'i hwyres chwe mis oed, Kimberley.

Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r achos i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu am fod yr heddlu wedi cael eu galw i'r tŷ sawl gwaith.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi anfon pedair injan dân o Gwmbrân, Malpas a Chasnewydd i'r safle fore Mawrth.

Daeth galwad am 3:29am o'r tŷ yn Tillsland yng Nghoed Efa fod y tŷ eisoes yn wenfflam.

'Llonydd'

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Corcoran: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sy'n ymwneud â thair cenhedlaeth yr un teulu ac rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu'r rhai fu farw.

"Rwy'n gofyn ar eu rhan iddyn nhw gael llonydd i alaru yn ystod y cyfnod yma. Mae ein swyddogion cyswllt teulu yn eu cefnogi.

"Mae'r digwyddiad wedi cael effaith ar y gymuned gyfan - roedd y teulu'n adnabyddus yn y gymuned ac fe fydd colled fawr ar eu hôl."

Rhoddodd deyrnged i gymdogion beryglodd eu bywyd wrth geisio achub y teulu.

"Ceisiodd o leia' ddau ddefnyddio ysgol a'u hachub ond roedd y tân yn rhy ffyrnig."

Dywedodd un o drigolion yr ardal, Jean Lewis, fod goleuadau cerbydau'r gwasanaethau brys wedi ei deffro.

Image copyright Wales News Service
Image caption Kayleigh Buckley, mam Kim, yn gafael yn ei hwyres

"Fe gerddais draw i weld beth oedd yn digwydd ond mae'r ardal wedi cael ei chau. Mae'r tai yn agos iawn at ei gilydd.

"Rwy' wedi byw yma ers saith mlynedd, ac mae pawb ar fy stryd i yn nabod ei gilydd."

Mae archwiliad fforensig y gwasanaeth tân a'r heddlu wedi dechrau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Corcoran: "Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad y gymuned yn ystod y cyfnod ofnadwy ac fe fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau y bydd pawb sydd wedi diodde' yn derbyn cefnogaeth.

"Bydd ein swyddogion yn aros ar y safle yn barod i siarad â phobl sy'n poeni neu rai sy' am roi gwybodaeth."

Dylai unrhyw un a glywodd neu a welodd unrhyw beth amheus cyn y tân ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.