Teyrngedau i gyn gadeirydd Abertawe Malcolm Struel

Malcolm Struel Image copyright BBC news grab
Image caption Malcolm Struel oedd cadeirydd y clwb y tro diwethaf i Abertawe fod yn y brif adran

Mae cyn gadeirydd clwb pêl-droed Abertawe, Malcolm Struel, wedi marw yn 78 oed.

Roedd Mr Struel, cyfreithiwr yn ôl ei alwedigaeth, yn gadeirydd rhwng 1972-83 ac fe chwaraeodd ran flaenllaw wrth i'r clwb godi o'r bedwaredd adran i'r hen adran gyntaf.

Mr Struel sy'n derbyn y clod am fuddsoddi miloedd o bunnau i achub y clwb oedd mewn trafferthion ariannol ac am lwyddo i berswadio John Toshack i ymuno fel chwaraewr-rheolwr.

Dywedodd cadeirydd presennol Abertawe Huw Jenkins:

"Bydd Malcolm yn cael ei gofio fel arweinydd wnaeth arwain y clwb drwy gyfnod cofiadwy yn ei hanes.

"Fe fydd o hyd yn cael ei gofio fel y dyn a wnaeth berswadio Toshack i ddod i'r Vetch, ac arwain y clwb ar daith gofiadwy i ymuno â detholion y byd pêl-droed. Mae ein cydymdeimlad heddiw gyda'i deulu. "

Cafodd Mr Struel ei anafu mewn damwain ffordd ddifrifol yn gynharach eleni.