Marwolaeth Aamir: 'Disgwyl i athro alw'

Aamir Siddiqi Image copyright Other
Image caption Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Mae mam bachgen 17 oed gafodd ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yng Nghaerdydd wedi dweud ei bod yn credu mai athro Coran oedd yn galw er mwyn dysgu ei mab.

Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddiaeth a hefyd yn gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio rhieni Aamir.

Clywodd Llys y Goron Abertawe gyfweliad wedi ei recordio gyda'r fam, Parveen Ahmad, yn sôn am ddigwyddiadau Ebrill 11, 2010.

Dywedodd ei bod hi wedi clywed y gloch yn cael ei chanu cyn gweld rhywun wrth y drws ac roedd yn credu mai'r athro ydoedd, yn rhoi brethyn sgwâr ar ei ysgwydd.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli mai mwgwd oedd e," meddai'r fam.

"Rwy'n difaru cymaint nawr ..."

'Dim gelynion'

Dywedodd fod pobl wedi canu'r gloch weithiau am eu bod yn chwilio am gyfeiriad arbennig.

Ond nid oedd wedi bod yn ofnus o'r blaen ar wahân i'r tro yr oedd dynion meddw wrth y drws.

"Nid oes gennym unrhyw elynion," meddai'r fam.

Clywodd y llys ei bod hi a'i gŵr Iqbal wedi eu hanafu wrth geisio rhwystro dau ddyn rhag trywanu Aamir.

Yn ôl yr erlyniad, bwriad y ddau ddiffynnydd oedd ymosod ar ddyn arall oedd yn byw 70 llath o gartref y teulu.

Mae'r achos yn parhau.

 

 

Straeon perthnasol