Tân yn ffatri Crymlyn wedi ei gynnau'n fwriadol

Real Crisps factory on fire - image Mark Payne Image copyright Mark Payne
Image caption Roedd ffatri Real Crisps yn wenfflam erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd (Llun Mark Payne)

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn credu bod tân ddinistriodd ran helaeth ffatri yn Sir Caerffili wedi ei gynnau'n fwriadol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffatri Real Crisps ar Stad Ddiwydiannol Penyfan yng Nghrymlyn am 3am fore Iau.

Chafodd neb ei anafu ond roedd rhaid i'r shifft nos adael yr adeilad.

Pan gyrhaeddodd wyth injan dân - rhai o Bontypridd a Chaerdydd - roedd tri chwarter yr adeilad eisoes ar dân.

Gan fod y ffatri'n defnyddio olew a braster i wneud eu cynnyrch, fe ledodd y tân yn gyflym.

Cemegau

Fore Iau roedd mwy na 50 o ddiffoddwyr yno a'r flaenoriaeth oedd ceisio sicrhau nad oedd y tân yn lledu i ffatrïoedd eraill cyfagos.

Oherwydd natur y deunyddiau yn y ffatri roedd tîm o arbenigwyr delio gyda chemegau ar y safle.

Mae asiantaeth iechyd amgylcheddol wedi bod yn cynnig cyngor oherwydd natur y tanciau olew.

Yn y cyfamser, dywedodd y rheolwyr eu bod yn ystyried y camau nesa'.

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer y staff sy'n poeni am eu swyddi," meddai Paul Allen, Prif Weithredwr Grŵp Tayto.

"Mae ffatrïoedd eraill ac rydyn ni'n ystyried yr opsiynau i gyd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.