Rhyddfraint tref i seren Olympaidd

Tom James Image copyright PA
Image caption Cafodd Tom James ei fagu yn Wrecsam

Fe fydd enillydd dwy fedal aur Olympaidd, Tom James, yn cael ei anrhydedd trwy dderbyn rhyddfraint tref Wrecsam i gydnabod ei gampau.

Enillodd James ei fedal aur gyntaf yn Beijing yn 2008, ac fe gafodd un arall wrth rhwyfo yn Eton Dorney yn ystod Gemau Llundain 2012.

Bydd yn derbyn yr anrhydedd mewn seremoni arbennig ddydd Gwener a fydd hefyd yn canu clodydd dau arall o'r ardal - Chris Bartley a Victoria Thornley - a fu'n cystadlu yn y Gemau.

Dywedodd James, a fagwyd yn Wrecsam: "Mae'r cyfan wedi digwydd mor sydyn rwy'n credu y bydd hi'n beth amser eto cyn i mi werthfawrogi'n iawn beth mae hyn yn ei olygu.

"Rwy'n ddiolchgar iawn ac yn teimlo'n ffodus ac yn freintiedig i gael rhyddfraint y dref.

"Mae'r digwyddiad yma'n well fyth gan ei fod yn un o'r dathliadau Olympaidd olaf i ddigwydd, ac fe fydd yn goron ar gyfnod o fisoedd anhygoel."

Dywedodd Neil Rogers, arweinydd Cyngor Wrecsam, bod y tri athletwr wedi ysbrydoli cenhedlaeth.

"Fe roddon nhw rhai eiliadau gwych i ni yn ystod Llundain 2012, ac rwy'n siwr y bydd llawer yn cofio'r Gemau arbennig yma am flynyddoedd i ddod.

"Mae'n briodol iawn bod gorchest Tom wrth ennill medalau aur yn Beijing a Llundain yn cael cydnabyddiaeth arbennig, ac rwyf wrth fy modd y bydd yma i dderbyn rhyddfraint y bwrdeisdref sirol."

Rhyddfraint y bwrdeisdref yw'r anrhydedd uchaf y gall y cyngor ei chynnig i unigolyn, grŵp neu sefydliad, ond mae'r anrhydedd yn un seremonïol gan nad oes hawliau arbennig yn dod yn ei sgîl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.