Gêm ddarbi'n 'tanio'r dychymyg'

George North goes over Kahn Kahn Fotuali'i Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption George North yn maeddu Kahn Kahn Fotuali'i

Mae llygaid cefnogwyr rygbi yng Nghymru ar y gêm ddarbi sy'n dechrau'r penwythnos yng Nghynghrair Rabo Direct Pro 12 nos Wener.

Hyd yn hyn mae'r Scarlets a'r Gweilch wedi cael dechrau gwahanol, y tîm o Lanelli ar frig y tabl gyda thair buddugoliaeth a'r Gweilch un o'r gwaelod ar ôl colli tair gêm agoriadol.

Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi wyth newid i'r tîm faeddodd Connacht y Sadwrn diwethaf gyda Liam Williams, Andy Fenby a Tavis Knoyle yn dychwelyd y tu ôl i'r sgrym, a Ken Owens, Deacon Manu, George Earle, Aaron Shingler a Rob McCusker yn dod i mewn i'r pac.

I'r Gweilch bydd Ryan Jones ar y fainc am y tro cyntaf ers tro. Ond mae Ashley Beck yn diodde' o anaf, ac mae Adam Jones a Rhodri Jones hefyd yn absennol.

Anodd

Mae hyfforddwr y Gweilch, Jonathan Humphreys, wedi dweud bod dechreuad ei dîm wedi bod yn anodd.

"Y teiumlad mwya' yw siomedigaeth oherwydd fe aeth llawer o ymdrech i mewn i'r tair gêm," meddai.

"Fe allai rhywun ddadlau y dylen ni fod wedi ennill y ddwy gyntaf ond fe gawson ni ein haeddiant yn erbyn Glasgow.

"Ond mae gemau darbi yn wych - mae'r awyrgylch yn wahanol yn y garfan.

"Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i gae'r Scarlets - mae'n stadiwm wych - ac fe all rhywbeth ddigwydd."

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby: "Mae llawer o'r tîm yn deall bod chwarae i'r Scarlets yn bwysig ond bod chwarae yn erbyn y Gweilch hefyd yn bwysig.

"Y gamp i ni yw cwrdd â'r her, ond hefyd i gofio beth yr ydym wedi ei wneud yn dda eleni."

TIMAU (Tebygol)

Scarlets: Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Andy Fenby; Rhys Priestland, Tavis Knoyle; Phil John, Ken Owens, Deacon Manu, George Earle, Richard Kelly, Aaron Shingler, Rob McCusker (capt), Josh Turnbull.

Eilyddion: Matthew Rees, Peter Edwards, Samson Lee, Sione Timani, Johnathan Edwards, Gareth Davies, Aled Thomas,Gareth Maule.

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Tom Grabham; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i; Duncan Jones, Richard Hibbard, Aaron Jarvis, Alun Wyn Jones (capt), Ian Evans, George Stowers, Joe Bearman, Justin Tipuric.

Eilyddion: Scott Baldwin, Ryan Bevington, Joe Rees, Jonathan Thomas, Ryan Jones, Rhys Webb, Matthew Morgan, Jonathan Spratt.

Bydd Glasgow yn croesawu Connacht nos Wener ac yna ddydd Sadwrn bydd Caeredin yn teithio i wynebu Leinster a'r Dreigiau ar daith i Munster. Bydd y Gleision gartre' yn erbyn Treviso.

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 28/29/30 Medi 21/22/23 Rhag. 11-24 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 5-16 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 13-18 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 5/6/7 Hyd. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 21/22/23 Medi 28/29/30 Medi 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 10-28 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 28/29/30 Medi 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 13-16 4/5/6 Ion.
Leinster 21/22/23 Medi 28/29/30 Rhag. 45-25 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 21/22/23 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 5/6/7/ Hyd. 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 5/6/7 Hyd. 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 20-19 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 5/6/7 Hyd. 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.