Pryder heddlu am fam a babi

Ysbyty Brenhinol Gwent Image copyright PA
Image caption Health officials called in police after the mother left the Royal Gwent Hospital

Mae'r heddlu yn awyddus i ddod o hyd i fam ifanc a'i phlentyn sydd wedi bod ar goll ar ôl gadael yr ysbyty.

Dywed meddygon eu bod yn poeni am iechyd y fam 19 oed a'i babi ar ôl iddynt adael Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd a hynny'n groes i gyngor meddygol.

Fe wnaeth y fam adael yr ysbyty 12 awr ar ôl rhoi genedigaeth.

Dywed heddlu Gwent eu bod wedi bod yn chwilio'r meysydd parcio a'r tir o amgylch yr ysbyty.

Maen nhw'n disgrifio cyflwr y fam fel un 'bregus'

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.